Cyflwyniad

Rhif y ddeiseb: P-05-942

Teitl y ddeiseb: Yr Awr Euraidd wrth Ddioddef Strôc – Amseroedd Ymateb Ambiwlansiau i’w hailgategoreiddio o Statws Oren yn ôl i Statws Coch.

Geiriad y ddeiseb: Mae polisi presennol Cynulliad Cymru wedi categoreiddio Amseroedd Ymateb Ambiwlansiau ar gyfer unigolyn sydd wedi cael strôc yn y categori "oren", ac mae hyn yn golygu nad oes DIM targed amser ymateb i'w gyrraedd neu fodloni.

Mae'r ddeiseb hon yn gofyn i'r targed amser ymateb ar gyfer person yr amheuir ei fod wedi cael strôc gael ei ailgategoreiddio yn ôl i'r statws "coch", a thrwy hynny sicrhau bod unrhyw berson sy'n cael strôc yn cael cymorth ambiwlans cyn gynted â phosibl.

Mae'n ffaith hysbys mai'r "awr euraidd" yw'r 60 munud mwyaf hanfodol i gael cymorth meddygol angenrheidiol i unrhyw un sydd wedi cael strôc. Ni ddylai neb yng Nghymru fod â pherygl y caiff yr "awr euraidd" hon ei hesgeuluso drwy orfod aros am amser ymateb categori "oren" cyn cael cymorth ambiwlans.

Sicrhewch bod unigolion sy'n cael strôc yn derbyn yr amseroedd ymateb y maent y neu haeddu ac y maent eu hangen – sefydlwch darged amser ymateb "coch" heddiw.

Cefndir

Y Model Ymateb Clinigol

Ym mis Hydref 2015, symudodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru at ffordd newydd o ddarparu a mesur sut yr ymatebir i alwadau brys am ambiwlans. Mae'r model ymateb clinigol yn rhannu galwadau 999 yn dri math:

Tabl 1: Model Ymateb Clinigol

Math o alwad

Diffiniad

Enghraifft

COCH

Galwadau bygythiad uniongyrchol i fywyd. Bydd y galwadau hyn yn destun dangosyddion clinigol yn ogystal â safon ar sail amser sy'n gofyn am bresenoldeb o fewn 8 munud mewn o leiaf 65% o’r galwadau hyn.

Ataliad y galon/anadlu/tagu

OREN

Difrifol, ond nid oes bygythiad uniongyrchol i fywyd. Bydd y galwadau hyn yn cynnwys y mwyafrif o achosion meddygol a thrawma. Bydd galwadau oren yn cael ymateb brys. Crëir proffil ymateb i wneud yn siŵr bod yr adnodd clinigol mwyaf addas yn cael ei anfon i bob galwad oren. Defnyddir profiad cleifion a data dangosyddion clinigol i werthuso effeithiolrwydd yr ymateb ambiwlans.

Poenau cardiaidd y frest/strôc/torri esgyrn

GWYRDD

Ddim yn ddifrifol nac yn peryglu bywyd. Mae galwadau gwyrdd yn ddelfrydol i’w rheoli trwy wasanaeth brysbennu eilaidd dros y ffôn.

Yn aml mae gweithwyr proffesiynol gofal iechyd yn gofyn am drosglwyddiad brys o ofal acíwt isel i gyfleuster acíwt uwch. Mae'r trosglwyddiadau hyn yn cael eu codio fel rhai gwyrdd ac yn cael eu cyflawni o fewn amserlen y cytunwyd arni gyda'r gweithiwr proffesiynol sy'n gwneud y cais.

Llewygu – y claf wedi dod ato a mân-anafiadau/pigyn yn y glust

Ffynhonnell:  Cyflwyniad WAST i sesiwn graffu gyffredinol y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon (HSCS), 2020

Categoreiddio strôc

Gall ymateb y gwasanaeth ambiwlans i strôc fod yn wahanol yn ôl math a difrifoldeb y strôc, yn ogystal ag amgylchiadau’r cleifion unigol. Mae’r Gymdeithas Strôc yn disgrifio'r tri math gwahanol o strôc:

·         Mae strôc isgemig yn digwydd pan fydd clot gwaed yn  torri'r cyflenwad gwaed i'r ymennydd. Mae hyn yn cyfrif am 85% o'r holl achosion;

Yr ‘Awr Euraidd’

Mae'r 'awr euraidd' yn gysyniad cyffredinol ym maes meddygaeth frys sy'n nodi bod gan glaf â chyflyrau acíwt penodol, gan gynnwys strôc, 60 munud i dderbyn gofal hollgynhwysol, ond gall morbidrwydd a marwolaethau gynyddu’n sylweddol o ymyrryd yn hwyrach. Mae yna ystod sylweddol o ymchwil, tystiolaeth ac arweiniad ar y modd o ddiagnosio, trin a rheoli’r gwahanol fathau o strôc. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o safbwyntiau ar y math o driniaeth, a’i amseriad, ar gyfer gwahanol fathau o strôc; mae llawer yn dangos gwerth yr 'awr euraidd', ond mae ambell safbwynt wahanol o ran a yw'r amserlen hon yn briodol ar gyfer pob math o strôc ac ymatebion gwasanaethau.

Yn ôl Safonau Ansawdd ar gyfer Strôc mewn Oedolion NICE, caiff ymennydd cleifion sydd wedi dioddef strôc acíwt ei ddelweddu'r cyn pen 1 awr ar ôl cyrraedd yr ysbyty, os ydynt yn bodloni unrhyw un o'r arwyddion ar gyfer delweddu ar unwaith. Mae ymchwil ym maes Nyrsio Gofal Critigol yn argymell rhoi protocol strôc isgemig acíwt ar waith, yn ogystal â thîm strôc acíwt i gwblhau’r broses o  ddelweddu’r ymennydd a chynnal profion eraill o fewn yr awr euraidd. Yn ôl y  Gymdeithas Strôc, dylai pawb sydd, i bob golwg, wedi cael strôc gael sgan ymennydd cyn pen awr, os yn bosibl, oherwydd gall sgan helpu meddygon i benderfynu ar y driniaeth gywir.

Mae canllawiau presennol NICE ynghylch diagnosio a rheoli strôc a phwl o isgemia dros dro yn argymell derbyn pawb sydd, i bob golwg, wedi cael strôc yn uniongyrchol i uned strôc acíwt arbenigol yn dilyn asesiad cychwynnol. Yn yr un modd, mae'r Canllaw Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Strôc (2016, t.43) a gyhoeddwyd gan Goleg Brenhinol y Meddygon yn nodi y gall cleifion sy'n dioddef strôc waedlifol ddirywio'n gyflym, ac y dylid eu derbyn yn uniongyrchol i uned strôc hyperacíwt ar gyfer asesu a monitro arbenigol brys.

Ar yr un pryd, yn ôl NICE a'r Gymdeithas Strôc, mae angen rhoi thrombolysis cyn pen pedair awr a hanner ar ôl dechrau symptomau strôc i’r rhan fwyaf o bobl sy’n dioddef strôc isgemig.

Yn eu tystiolaeth lafar i sesiwn graffu gyffredinol y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ym mis Ionawr 2020, cadarnhaodd WAST yr angen am ymatebion gwahanol i strôc waedlifol – a allai fod yn sylweddol fwy difrifol yn glinigol – a strôc isgemig:

Severe haemorrhagic strokes,…will present, very often, differently, and under those circumstances, they would often tip into the red category, and, of course, then, you would have to get them to a neurosurgical unit and ensure that they are scanned prior to treatment. (para.38)

Yn ôl WAST hefyd (para.44), er nad oes safon amser ymateb ar gyfer galwadau oren, yr amser ymateb delfrydol i glaf sy’n syrthio o fewn yr hyn y maent yn ei alw'n gategori Oren 1 yw tua 20 munud, a thua 30 i 40 munud o fewn eu categori Oren 2.

Yr Adolygiad o’r Categori Oren

Ym mis Tachwedd 2018, mewn ymateb i bryderon ynghylch perfformiad Oren, cyhoeddodd WAST Adolygiad o’r galwadau i Wasanaeth Ambiwlans Cymru a gategoreiddiwyd fel Oren.

Mae WAST – fel llawer o wasanaethau brys eraill yn y DU a thramor – yn defnyddio set o brotocolau sy'n cynnwys cwestiynau a chyfarwyddiadau allweddol i'r sawl sy'n delio â galwadau, er mwyn darparu ffordd safonol o bennu’r math o alwad, a pha mor frys ydyw. Mae WAST yn defnyddio'r System Dosbarthu Blaenoriaeth Feddygol, sydd â thua 1,900 o godau y gellir eu cynhyrchu mewn ymateb i atebion y galwr.

O’r galwadau hyn, mae 62% yn y categori Oren. Mae codau Oren 1 yn cyfrif am oddeutu 14% o'r rhain ac yn cynnwys pethau fel strôc ddiweddar (o fewn 4 awr) a phoen yn y frest. Mae codau Oren 2 yn cyfrif am oddeutu 48% o'r codau ac yn cynnwys pethau fel cwympiadau a strôc llai diweddar (dros 4 awr).

Yn ôl yr Adolygiad o Alwadau Oren (t.26), nid yw hynny’n golygu y bydd pawb sy'n cysylltu â gwasanaethau ambiwlans sy'n credu eu bod nhw, neu rywun gyda nhw, yn dioddef strôc yn cael eu blaenoriaethu yn y protocol strôc neu fel Oren; gall symptomau eraill fel anymwybodolrwydd olygu bod yr alwad yn cael ei chategoreiddio fel cyflwr arall gyda chod blaenoriaeth uwch, fel Coch. Mae'r system yn blaenoriaethu galwad yn ôl brys gan ei chymharu ag eraill, ac yna penderfynir pa fath o ymateb neu gerbyd sydd ei angen.

Nododd yr Adolygiad nifer o ganfyddiadau allweddol, gan gynnwys y canlynol:

·         Mae blaenoriaethu galwadau yn gymhleth, ond mae yna ystod o ymatebion gwahanol, gan ddibynnu ar gyflwr y claf;

·         Teimlai'r cyhoedd ei bod yn bwysig cael yr ymateb gorau ar gyfer eu cyflwr, hyd yn oed os nad hwnnw oedd y cyflymaf;

·         Mae'r model ymateb clinigol yn ffordd ddilys a diogel o ddarparu gwasanaethau ambiwlans, ac mae'r cyhoedd yn cefnogi egwyddorion y model;

·         Nid yw'n ymddangos bod yr amser aros am ymateb ambiwlans yn y categori Oren yn cyfateb â chanlyniadau gwaeth.

At hynny, argymhellodd yr Adolygiad raglen ymgysylltu i sicrhau eglurder o ran rôl gwasanaethau ambiwlans brys, a’r modd y caiff galwadau eu blaenoriaethu a'u categoreiddio. Ym mis Ionawr 2020, gwnaeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gyhoeddiad ynghylch sefydlu Tasglu Argaeledd Ambiwlansys i arwain gwaith mewn nifer o feysydd, gan gynnwys adeiladu ar y cynnydd a wnaed yn erbyn yr Adolygiad Categori Oren. Mae WAST wedi sôn am (t.10) pryderon parhaus ynghylch perfformiad Oren, gydag amseroedd ymateb yn uwch nag oeddynt yn 2018.

Tystiolaeth o fannau eraill yn y DU

Yn dilyn adolygiad o safonau gwasanaeth ambiwlansys gan Brifysgol Sheffield, yn 2017, sefydlodd GIG Lloegr set newydd o dargedau brys ambiwlansys ar gyfer Lloegr. Mae'r rhain yn seiliedig ar bedwar categori; salwch neu anafiadau sy'n peryglu bywyd, galwadau mewn argyfwng, galwadau brys a galwadau llai brys. Mae cleifion strôc yn tueddu i gael eu cynnwys yn y categori 'argyfwng', sydd â tharged perfformiad o 18 munud.

Mae Gwasanaeth Ambiwlans yr Alban (Adroddiad Perfformiad Dangosyddion Ansawdd y Bwrdd tt.11-15) yn hysbysu yn erbyn system pum haen, sef Porffor (amser targed o dan 6 munud), Coch (amser targed o dan 7 munud), Oren, Melyn a Gwyrdd (nid oes gan y tri olaf amser ymateb targed). Y tueddiad yw cynnwys cleifion sydd, i bob golwg, wedi cael strôc, yn y categori Oren.

Ymateb Llywodraeth Cymru i’r ddeiseb

Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at y ffaith mai clinigwyr blaenllaw wnaeth ddyfeisio model ymateb clinigol Cymru, a’i fod yn rhoi mwy o ffocws nid yn unig ar yr amser a gymerir i ymateb, ond hefyd ar ansawdd y gofal y mae pobl yn ei gael a gwneud yn siŵr bod cleifion strôc yn cael eu trosglwyddo i'r lleoliad mwyaf priodol ar gyfer cael triniaeth:

Dyna pam y mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn anelu at ymateb i gleifion sy'n cael strôc gynnar newydd mor gyflym â phosibl drwy anfon cerbyd ambiwlans argyfwng addas o dan amodau gyrru golau glas i'w cludo yn syth i dîm strôc arbenigol i ddechrau'r driniaeth sydd ei hangen arnynt.

Mae'r ymateb hefyd yn pwysleisio y gall yr hyn sy’n gyfrifol am amodau amrywio, ynghyd â pha mor ddifrifol ydynt, a bydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r rheini sy’n cymryd y galwadau gategoreiddio'r alwad yn unol â hynny, sy'n golygu efallai na chedwir yn gaeth at y meini prawf o fewn y model ymateb bob amser, oni bai bod amgylchiadau a chyflwr clinigol yn cefnogi hynny.

Er enghraifft, gellir categoreiddio trawiad ar y galon a strôc yn y categori Coch neu Oren gan ddibynnu ar eu difrifoldeb clinigol cymharol.

Yn olaf, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cadarnhau, yn unol ag un o argymhellion yr Adolygiad o Alwadau Oren, fod Rhaglen Gweithredu’r Adolygiad wedi bod yn gweithio gyda'r Gymdeithas Strôc, Cynghorau Iechyd Cymunedol a phartneriaid o fewn GIG Cymru i ddatblygu mesurau newydd sy'n rhoi mwy o gyd-destun  o ran amseroedd ymateb ambiwlansys i bobl sy'n cael strôc. Bwriad y gwaith hwn yw cefnogi dyluniad mesurau ar sail amser ar gyfer strôc, y mae'r Gweinidog yn disgwyl eu cyhoeddi yn gynnar yn 2020.